Mae gweithio gyda Creative Casting wedi bod yn freuddwyd. Mae nhw wastad yn darparu Artistiaid Cefnogol proffesiynol sydd yn ffitio'r brîff. Mae opsiynnau yn cael eu gyrru yn sydyn, ac yn effeithlon – a ‘dyw gweithio gyda'n gilydd i gael yr edrychiad cywir erioed wedi bod mor hawdd. Fel Ail Gyfarwyddwr Gynorthwyol, rydym yn aml dan bwysau, a mae Creative Casting yn deall hynny ac yn helpu ble bynnag y gallent. Yn ogystal â artistiaid cefnogol oedolyn, maent hefyd yn darparu plant, ac yn help gyda'r broses drwyddedu sydd mor ddefnyddiol!
Polly Green – Ail Gyfarwyddwr Gynorthwyol
Mae Creative Casting yn chwa o awyr iach. 'Dwi'n gwybod y gallent roi fy ngwyneb i'n enw, a rydw i wir yn coelio fod y tîm yn gweithio ar fy rhan. Rydw i wir wedi mhlesio.
John Stephens
Ymunom â Creative Casting yn ddiweddar trwy argymhelliad ffrind, ers mis Medi, mae fy merch wedi cael dau swydd arbennig gyda nhw, rôl fechan mewn drama BBC, a rhan mewn hysbyseb Nadolig ar y teledu. Rydym yn hapus iawn gyda'r asiantaeth; cyfathrebu gwych a theimlad deuluol wresog gan yr asiantaeth. Rydw i hyd yn oed wedi cael galwadau ffôn dros penwythnosau ac gyda'r nos i drafod y ffilmio, a oedd yn lawer gwell na gorfod aros trwy'r penwythnos i glywed yn ôl ganddyn nhw. Buasem yn argymell nhw yn fawr, a buaswn yn hoff iawn o fwy o gyfleoedd gan fod fy merch yn mwynhau pob munud o'i siwrnau actio trwy Creative Casting!
Emma Price
Ers ymuno â Creative Casting yn gynharach yn 2017, rydw i wedi gweithio ar ambell i waith ar gyfer cynyrchiadau teledu a aeth yn dda iawn, a wnes i fwynhau yn fawr. Mae Creative wedi bod yn wych – cyfeillgar iawn, ond hefyd yn broffesiynol – wnaeth y taliadau holl-bwysig gyrraedd ar amser hefyd. Mae'r artistiaid eraill rydw i wedi gweithio gyda ar set hefyd wedi bod yn wych. Rydw i yn edrych ymlaen i wneud llawer mwy o waith yn y dyfodol a wedi argymell Creative Casting i lawer o fy nghysylltiadau.
Chris Richards
Rydw i yn hynod falch o argymell Creative Casting. Mae'r dywediad "Mae Pobl yn prynu Pobl Gyntaf" mor wir yn yr asiantaeth yma. Mae'r tîm yn gynhwysol, ac yn gwneud i mi deimlo yn werthfawr. Mae'r broses gyfan yn cynnig gwasanaeth sydyn a di-broblem. Nid yw'n or-ddweud dweud fod y cyd-artistiaid gefnogol yn orfoledd gweithio gyda nhw. Rydw i wedi mwynhau pob munud. Rydw i wir yn edrych ymlaen i fwy o brofiadau gwych.
Patti Heaven
Ymunais â Creative gychwyn flwyddyn ddiwethaf ar argymhelliad ffrind. Rydw i yn gweithio llawn amser, felly rydw i ddim ond yn gallu gweithio gyda'r nos neu ar benwythnosau. Be' rydw i yn hoffi fwyaf am yr asiantaeth yw eu bod yn gyrru neges destun i ofyn os hoffwn gael fy nghysidro, i wybod os wyf ar gael cyn fy nghysidro. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i weithio ar 3 sioe deledu arbennig, ac hyd yn oed wedi cael fy archebu i fod ar yr un un ddwywaith.
Mae fy mab yn 6 oed, a mae ef hefyd wedi bod ar ddrama meddygol ar y teledu, ag yn ddiweddar wedi bod ar hysbyseb ar gyfer batris trwy Creative. Mae nhw wedi edrych ar ein holau yn dda iawn – a wedi cael ein talu yn sydyn iawn am bob job yr ydym wedi eu gwneud. Mae'r cyfathrebu yn wych, a dyna sydd yn gwneud Creative yn well na'r asiantaethau eraill yr ydym hefo! Methu aros am fwy o archebion gwych, a gweld be ddaw yn 2018.
Tricia Jordan
Wedi bod gyda asiantaethau sefydledig eraill am nifer o flynyddoedd, roeddwn yn amheus am ymuno â Creative. Fodd bynnag, wedi clywed gan eraill yn y sector fod y tîm newydd yn wych, penderfynais ymholi. Ffoniais y swyddfa i drafod cyfleon gwaith a siaradais â thîm proffesiynol a chyfeillgar. Nhw yw'r asiantaeth cyntaf rwy'n argymell nawr.
Kerry Nef
Gall fod yn ofnus ymuno â asiantaeth gastio, yn enwedig os nad oes gennych lawer o brofiad. Mae Creative Casting yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, a byddent yn eich helpu ym myd bendigedig ffilm a'r cyfryngau fel artist cefnogol. Diolch am y cyfleon rydych wedi eu rhoi i mi yn 2017 – edrych ymlaen i 2018!
Debbie Russell
Ymunais ym mis Medi 2017. Hoffwn ddweud fod y cwmni yma yn dîm o weithwyr caled sydd yn helpu gosod yr artist gefnogol cywir yn y swydd gywir. Mae nhw wastad yn hapus ac yn barod i helpu, buaswn yn falch o basio mlaen fy mhrofiadau a straeon i artistiaid gefnogol eraill. Tîm wych – cariwch ymlaen gyda'r gwaith da,
Marie jewiss
Roeddwn yn ecstra ar y teledu 25 mlynedd yn ôl ac newydd ail-ymuno â'r diwyddiant. Mae llawer wedi newid yn yr amser hynny, megis rydym nawr yn cael ein galw'n artistiaid gefnogol :-) Newid arall yw'r parch a'r proffesiynoldeb rydych nawr yn ei dderbyn. Rydw i nawr yn teimlo fel rhan bwysig o'r cynhyrchiad yr wyf yn gweithio arno, o'r castio i'r gorffen. Teimlaf fod hyn yn ganlyniad o'r cefnogaeth gan Creative Casting!! Hir oes iddo.
Kevin A Meredith