Sign Up Login
T&C's

GEMS CASTING LIMITED T/A CREATIVE CASTING: TELERAU AC AMODAU AR GYFER CYNYRCHIADAU

NODIR - Mae'r termau ac amodau yma wedi eu cyfieithu. Os oes unrhyw gwestiynnau neu anghydfod, y fersiwn Saesneg a gaiff ei defnyddio fel y fersiwn terfynol.

Y canlynol yw’r termau a’r telerau (o hyn allan a elwir yn “y Termau hyn”) rhyngoch chi, ein cleient, fel unigolyn, Cwmni Cynhyrchu neu fudiad o’r fath, a Gems Casting Limited T/A Creative Casting (Creative Casting), mewn perthynas â ni yn darparu Artistiaid Cefndirol (ACau) ar eich cyfer.

Mae’r Termau hyn yn llywodraethu eich perthynas gyda Creative Casting, a bydd yn berthnasol ar gyfer pob Archeb o’n gwasanaeth.

Gall Creative Casting newid rai o’r Termau hyn o dro i dro, a byddech yn cael eich hysbysu ar wahan o unrhyw newidiadau.

Mae’r partion yn cytuno fel a ganlyn:

Cyflogaeth

Mae Creative Casting yn ymddwyn fel Asiantaeth Gyflogi yn unol â'r Ddeddf Asiantaeth Cyflogi 1973 ac ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Rheoliadau Busnesau Cyflogaeth 2003.

Mae statws gyflogaeth pob artist yn ddibynnol ar y contract/ffurflen ganiatâd gan y cwmni gynhyrchu. Ni fydd artistiaid yn weithiwr cyflogedig o Creative Casting o gwbl. Mae Creative Casting yn asiantaeth sydd yn gweithredu ar ran yr artistiaid.

Mae artistiaid yn hunan-gyflogedig ar gyfer trethi ac Yswiriant Cenedlaethol, ac felly yn gyfrifol am eu cyfraniad YC a Treth Incwm eu hunan. Pan fo artistiaid dan gontract gyda cynhyrchiad am amser hirach, gallent gael eu trin fel gweithwyr cyflogedig Talu Wrth Ennill o'r cynhyrchiad. Mae Creative Casting yn cadw'r hawl i anfonebu am, ac hyd at, 20% o enillion yr artist yn ddibynnol ar y math o gynhyrchiad.

Archebion

Ni all job barhau heb i Creative Casting dderbyn cytundeb Cwmni Cynhyrchiad trwy ebost hefo manylion anfonebu wedi eu llenwi.

Heb gytundeb tebyg, ystyrir i'r Cwmni Cynhyrchiad gael wybodaeth lawn o'r termau hyn sydd yn gymwys i'r archeb.

Math o Aseiniad

Ffilm a Theledu

Caiff pob gwaith eu talu dan y gytundeb berthnasol. Unai trwy BBC/Equity, ITV/Equity, PACT/Equity neu gytundeb FAA/PACT.

Ffotograffiaeth

Caiff pob job ffotograffiaeth eu talu ar y cyfradd a gytunwyd. Unai bob awr, hanner diwrnod, neu ddiwrnod llawn, yn ogystal ag unrhyw ffioedd defnydd.

Hysbysebau

Bydd pob hysbyseb am ddiwrnod 10 awr (i gynnwys awr am ginio) a bydd goramser yn cael ei dalu am bumed o gyfradd y diwrnod bob awr, oni bai fod cytundeb wahanol. Bydd cyfradd arbennig yn cael ei negodi ar gyfer gwaith nos. Bydd pob artist nodwedd â hawl i ffioedd ail-ddangos, neu ffioedd defnydd gyfartal yn ddibynnol ar y nifer o TVRs.

Promos Pop

Bydd pob Promo Pop am ddiwrnod 10 awr (i gynnwys awr am ginio) a bydd goramser yn cael ei dalu am bumed o gyfradd y diwrnod bob awr, oni bai fod cytundeb wahanol. Bydd cyfradd arbennig yn cael ei negodi ar gyfer gwaith nos. Bydd pob artist nodwedd â hawl i ffioedd ail-ddangos, neu ffioedd defnydd gyfartal.

Fideos Corfforaethol

Bydd pob fideo corfforaethol am ddiwrnod 10 awr (i gynnwys awr am ginio) a bydd goramser yn cael ei dalu am bumed o gyfradd y diwrnod bob awr, oni bai fod cytundeb wahanol. Bydd cyfradd arbennig yn cael ei negodi ar gyfer gwaith nos. Bydd pob artist nodwedd â hawl i ffioedd ail-ddangos, neu ffioedd defnydd gyfartal.

Marchnata

Bydd pob gwaith marchnata yn cael eu talu am gyfradd unai 5 awr neu 10 awr. Ar ôl 10 awr, bydd goramser yn cael ei dalu am bumed cyfradd diwrnod bob awr, oni bai fod cytundeb wahanol.

Trosleisio

Bydd holl waith trosleisio yn cael ei dalu am y cyfradd yr awr a gaiff ei gytuno.

Taliadau teithio

Ar gyfer holl gytundebau Ddi-Undeb (Non Union), bydd taliad teithio yn cael ei ychwanegu. Ble nad yw'r swm hyn yn cael ei gytuno o flaen llaw i'r archeb, bydd cost o 45c am bob milltir bob diwrnod bob ffordd yn cael ei dalu.

Defnydd

Os bod y cytundeb ei angen, bydd ffioedd defnydd yn cael eu gosod. Caiff rhain eu cyfrifo yn ôl cytundebau undebau, a gallen negodi ffioedd defnydd gyda'ch cynhyrchiad. Caiff pob ffi defnydd eu cytuno cyn i unrhyw waith gychwyn. Os bydd uwchraddio yn digwydd ar y set, neu yn ôl-gynhyrchu, cadwn yr hawl i ail-negodi ffioedd ble'n briodol.

Iechyd a Diogelwch

Mae artistiaid ar y set sydd wedi cael eu harchebu yn gyfrifoldeb y cwmni cynhyrchiad (y cyflogwr). Rhaid i'r cwmni cynhyrchiad gael yswiriant atebolrwydd cyflogwyr ac atebolrwydd cyhoeddus mewn lle i warchod Artistiaid. Mae Iechyd a Diogelwch o'r pwysigrwydd uchaf, a cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchiad (y cyflogwyr) ydyw. Mae'n hanfodol fod arferion gwaith yn cael eu cynnal wastad. Bydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn cael eu trin fel toriad anwelladwy materol o'r cytundeb yma. Rhaid i unrhyw wybodaeth Iechyd a Diogelwch gael ei gyfnewid a'r Artist yn unol â Deddf Asiantaeth Cyflogaeth 1973.

Cansliadau

Os yw unrhyw archeb yn cael ei ganslo wedi 5.30yh y diwrnod cyn aseiniad, bydd ffi canslo yn cael ei godi am y raddfa ddyddiol safonol.

Taliadau

Rhaid i bob taliad gael ei wneud i Creative Casting i'n cyfrif cleient. Os yw unrhyw artist yn cael eu talu yn uniongyrchol, mae Creative Casting yn cadw'r hawl i anfonebu y cwmni cynhyrchu p'run bynnag.

Taliadau Hwyr

Bydd holl daliadau hwyr yn cael 10% o dâl ychwanegol. Ystyrir taliad i fod yn hwyr 14 diwrnod wedi i'r dyddiad anfonebu. Bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymeryd i adfer unrhyw anfonebion sydd heb cael eu talu.

Hunaniaeth

Bydd Creative Casting yn sicrhau tystiolaeth ddogfennol o hawl pob unigolyn i weithio yn y DU, a chael copi o basport neu ID â ffotograff pob unigolyn cyn iddynt weithio ar y prosiect.

Contact us on WhatsApp 07966461799
FAQs Jobs Privacy Policy Terms
2024 © Gems Casting Ltd. T/A Creative Casting. All rights reserved. Solution: Onefuzz