Mae Creative Casting yn gweithio gyda cwmnïau ffilm a theledu i ganfod Artistiaid Cefnogol i ymddangos yn eu cynyrchaidau niferus.
Actor cefndirol yw Artist Cefnogol (AC), sydd hefyd yn cael eu galw yn "ecstra", ac yn cael eu defnyddio i lenwi golygfeydd mewn rhaglenni deledu a ffilmiau. Gall y rhan fod yn bobl mewn priodas, torf mewn gêm bel-droed, neu hyd yn oed golygfa ryfel.
Mae'r amrywiaeth yma yn golygu ein bod angen ACau o bob siâp, maint, oed ac ethnigrwydd. Babanod, plismyn, staff meddygol, gweithiwr tu ôl i'r bar, neu ficer... rydym yn cael yr ymholiadau rhyfeddaf!
Yn gyffredinol, nid yw ACau yn siarad mewn golygfeydd, ond gallech, ar rai achlysuron, gael llinell neu gyfarwyddiad gan y cyfarwyddwr, a gall hyn olygu ffi ychwanegol.
Mae cynyrchiadau yn dod atom gyda'u anghenion; gall rhain fod yn nifer fawr o unigolion ar gyfer golygfa fawr, neu un neu ddau ACau ar gyfer briff benodol. Byddem yna yn eich cyfateb gyda castio sydd yn briodol. Fel eich asiant, byddem yn rheoli eich archeb, o creu contract, gadael i chi wybod ble i fynd a phryd i gyrraedd ar y set, a prosesu'ch taliad am eich gwaith.
Gan amlaf, byddech yn ymddangos yn eich dillad eich hunan, ond os oes angen i chi wisgo gwisg yna bydd hyn yn cael ei ddarparu gan yr Adran Wisgo.
Mae amrywiaeth o anghenion ychwanegol a all gael eu gofyn o AC, yn cynnwys ffitio gwisgoedd, torri gwallt a ffitio wigiau, sefyll mewn, neu defnyddio eich sgiliau arbennig. Bydd pob un o'r rhain yn golygu tâl ychwanegol.
Am fwy o wybodaeth ar beth sydd yn ddisgwyliedig o AC ar set, a sut y disgwylir i AC ymddwyn, ewch i weld ein Côd Ymddygiad.
Os hoffech gofrestru, dilynwch y dolenni ar y wefan hon, neu gallwch fynychu Diwrnod Castio agored ble cewch gyfarfod a sgwrsio â tîm Creative Casting.