Sign Up Login
T&CA'au

GEMS CASTING LIMITED T/A CREATIVE CASTING: TELERAU AC AMODAU AR GYFER ARTISTIAID

NODIR - Mae'r termau ac amodau yma wedi eu cyfieithu. Os oes unrhyw gwestiynnau neu anghydfod, y fersiwn Saesneg a gaiff ei defnyddio fel y fersiwn terfynol.

Y canlynol yw’r telerau ac amodau (y “Termau” o hyn allan) rhyngoch chi, fel Artist, a Gems Casting Agency T/A Creative Casting (Creative Casting), mewn perthynas â canfod cyfleon i chi weithio fel artist cefnogol ar gyfer Cwmnïau Cynhyrchu.

Mae’r Termau hyn yn llywodraethu’r berthynas rhyngoch chi a Creative Casting a byddent yn berthnasol ar gyfer pob Aseiniad. Drwy gofrestru gyda Creative Casting (ac yna trwy dderbyn unrhyw Aseiniad), cymerwn eich bod wedi derbyn y Termau hyn.

Gall Creative Casting newid y Termau hyn (yn cynnwys y cyfraddau tâl a ddisgrifir yma) o dro i dro, a cewch eich hysbysu ar wahân am unrhyw newidiadau.

 

Mae’r partion yn cytuno fel y ganlyn:

1. DIFFINIADAU

Bydd y termau yn y Cytundeb yma â’r diffiniadau canlynol:

“Deddf”

Deddf Asiantaethau Cyflogi 1973

“Artist”

artist sydd yn cael eu cyflwyno gan Creative Casting i’r Cwmni Cynhyrchu i ddarparu gwasanaethau fel Artist Gefnogol i’r Cwmni Cynhyrchu.

“Taleb Taliad Artist”

cadarnhad ysgrifennedig neu electroneg am fanylion unrhyw Aseiniad benodol i’w rhoi i’r Artist pan yn derbyn unrhyw Aseiniad, a bydd y rhan fwyaf o’r amser yn cael ei gwblhau fel tystiolaeth o’r oriau a weithir gan yr Artist ar Aseiniad.

“Comisiwn”

% o Enillion yr Artist a delir i’r Artist wedi Archeb.

“DBS”

yr “Disclosure and Barring Service” neu gorff debyg arall a all o dro i dro fod yn gyfrifol am brosesu gwirio recordiau troseddol.

 “Galw”

Unrhyw weithred, ddyfarniad, hawliad neu unrhyw dechneg, cwyn, cost, dyled, costau, dirwy, cyfrifoldeb, colled, cosb, neu achos gyfreithiol.

“Aseiniad Dehongli”

gwaith fel Artist Cefnogol ar gyfer Cwmni Cynhyrchu, a ddisgrifir yn fanylach yn y Taleb Taliad Artist briodol.

“Cwmni Cynhyrchu”

y cwmni cynhyrchu (neu unigolyn, fudiad, partneriaeth, neu gwmni arall) y mae Creative Casting wedi cael eu gofyn i gyflwyno’r Artist ar gyfer cyflawni aseiniad.

“Cyfradd Tâl”

y cyfradd o dâl a fydd yn cael ei dalu i’r Artist mewn perthynas i bob Aseiniad a fydd yn cael ei hysbysebu i’r Artist ar wahân, ond fel arfer yn unol â cyfraddau arferol rhwng Cwmnïau Cynhyrchu ac undebau actorion o dro i dro ond a all newid mewn cytundebau â Artistiaid.

“Trydydd Partion”

unrhyw drydydd parti sydd yn Archebu gwsanaeth yr Artist.

 

2. APWYNTIO AC ARCHEBU

2.1 Mae’r Asiantaeth yn gweithredu fel asiantaeth gyflogi fel yr hyn a ddiffinir yn y Ddedf a’r Rheoliadau, sydd yn ceisio canfod cyfleon i chi i weithio fel Artist Gefnogol mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, hysbysebion ac unrhyw gynyrchiadau eraill fel sydd yn briodol.

2.2 Heb ragfarn i’r gweddill o’r Cytundeb yma, mae’r Artist yn cadw’r hawl i dderbyn neu wrthod unrhyw Ymrwymiad neu unrhyw derm ohono, cyn belled fod yr Artist yn dyfarnu hynny i’r Asiant yn glir cyn cytuno, neu gadael i’r Asiant gytuno i gontract gyda unrhyw Drydydd Parti.

2.3 Mae’r Artist yn cytuno fod Creative Casting wedi cael eu hawdurdodi i chwilio am waith ar ran yr Artist, ac yn cytuno i gontractau ar ran yr Artist, ond bydd ddim ond yn cytuno i gontract unwaith fod yr Artist wedi cytuno i dderbyn Aseiniad.

2.3 Mae’r Artist yn awdurdodi, heb allu troi yn ôl, yr Asiantaeth i arwyddo cytundebau ar gyfer Archebion ar eu rhan, ac i dderbyn Enillion yr Artist.

 

3. ASEINIADAU

3.1 Bydd Creative Casting yn ymdrechu i ganfod Aseiniadau addas ar gyfer yr Artist i berfformio fel

Artist Cefnogol ar ffilmiau, rhaglenni teledu, hysbysebion, a chynyrchiadau tebyg arall fel sydd yn briodol. Nid yw’n orfod i Creative Casting i gynnig Aseiniad i Artist, a nid yw’n orfod i’r Artist dderbyn unrhyw Aseiniad a gynigir gan Creative Casting.

3.2 Mae’r Artist yn cydnabod fod natur dros dro gwaith fel Artist Cefnogol yn golygu bydd ysbeidiau pan na fydd gwaith addas ar gael. Mae’r Artist yn cytuno fod addasrwydd Aseiniadau yn cael ei ddyfarnu gan Creative Casting yn unig, a nid yw Creative Casting yn gallu bod yn atebol i’r Artist os nad yw’n gallu cynnig unrhyw waith.

 

4. OBLYGIADAU’R ASIANT

4.1 Yn ystod y Term, ac yn ddibynnol ar berfformiad yr Artist o oblygiadau’r Artist yn y cytundeb yma, bydd yr Asiantaeth yn:

darparu Gwasanaeth Asiantaeth yn unol a’r termau yn y Cytundeb yma;

negodi yn ddidwyll ar ran yr Artist, gyda’r amcan i gael y termau gorau ar gyfer pob Ymrwymiad;

peidio cytuno i unrhyw gytundeb rwymol ar ran yr Artist heb eu caniatâd blaenorol;

darparu gwybodaeth ac arweiniad i’r Artist yn benodol i’r Diwylliant Adloniant;

rhannu’r Proffil gyda unrhyw Drydydd Parti sydd â diddordeb gyda’r amcan o wella Gwasanaeth yr Asiantaeth;

diweddaru’r Proffil yn resymol o aml;

defnyddio ymdrechion masnachol rhesymol i gasglu Enillion yr Artist gan Drydydd Partion;

talu i’r Artist holl Enillion Net yr Artist yn brydlon;

 

5. ENILLION ARTIST A COMISIWN

5.1 Mae’r Asiantaeth wedi eu hawdurdodi i dderbyn Enillion Artistiaid o ymrwymiadau. Mewn cydnabyddiaeth o Wasanaeth yr Asiantaeth a ddarparir gan yr Asiantaeth i’r Artist dan y Cytundeb yma, mae’r Artist yn cytuno talu Comisiwn i’r Asiantaeth.

5.2 Bydd yr Asiantaeth yn dal yr hawl i godi Ffi Weinyddol o dro i dro mewn perthynas a paratoi a diweddaru y Proffil, a’i gynnwys mewn Cyhoeddiad, cyn belled fod Ffi o’r fath ddim mwy na fyddai’n gost rhesymol o gynnwys y Proffil.

5.3 Bydd Comisiwn yn daliadwy gan yr Artist i’r Asiantaeth mewn perthynas â pob Ymrwymiad, yn cynnwys yr Archebion hynny a ddigwyddir cyn i derfyn neu derfyniant o’r Cytundeb yma.

5.4 Petai Enillion yr Artist yn cael eu talu’n uniongyrchol i’r Artist gan Drydydd Parti, bydd hawl gan yr Asiantaeth i anfonebu’r Artist am y Comisiwn ddyledus.

5.5 Caiff Enillion Net yr Artist eu dal gan yr Asiantaeth fel ymddiriedolwr ar gyfer yr Artist.

5.6 Petai unrhyw ffioedd neu gostau ychwanegol yn codi, caiff rhain eu hysbysebu i’r Artistiaid ar wahân.

5.7 Bydd Ffioedd Cofrestru, Comisiwn ac unrhyw ffioedd neu gostau eraill a gyfeirir atynt uchod yn cael eu tynnu o unrhyw swm sydd yn ddyledus gan Creative Casting i’r Artist, a gall amrywio o dro i dro.

5.8 Yn ddibynnol ar yr Artist yn darparu amserlenni awdurdodedig, chits, neu Talebau Taliad Artist wedi eu cwblhau yn unol â chymal 7, bydd yr Artist â’r hawl i dderbyn y Cyfradd Tâl yn ddim hwyrach na 10 diwrnod o’r dyddiad pryd y derbynir y taliad gan y Cwmni Cynhyrchu. Bydd y Cyfradd Tâl yn cael eu esbonio yn y Talebau Taliad Artist priodol ar gyfer Aseiniad penodol.

5.9 Nid yw’r Artist â’r hawl i dderbyn taliad gan Creative Casting na’r Cwmni Cynhyrchiad am unrhyw amser sydd yn cael ei dreulio ddim yn gweithio ar yr aseiniad, mewn perthynas â gwyliau, salwch neu absenoldeb am unrhyw reswm.

 

6. OBLYGIADAU’R ARTIST

Yn ystod y Term, bydd yr Artist:

yn cyrraedd eu hoblygiadau dan unrhyw gontract a gytunwyd â mewn perthynas â darparu eu gwasanaeth, ac i wneud hynny hyd eithaf eu gallu a sgil ac i ymddwyn mewn ffordd broffesiynol a chwrtais o hyd, i gynnwys cyrraedd aseiniadau yn brydlon, a glynu i Gôd Ymddygiad yr Asiantaeth;

yn gwarantu fod holl wybodaeth a ddarparir i’r Asiantaeth dan y Cytundeb yma yn gywir ac yn wir;

yn cydnabod mai yr unig daliad mae’r Artist angen ei wneud i’r Asiantaeth yn ystod y Term yw’r Ffi Weinyddol, ac mewn adegau eithriadol, Comisiwn, pan fo Enillion Artist yn cael eu talu yn uniongyrchol i’r Artist gan Drydydd Parti;

yn cytuno fod ffotograff yr Artist a’i debygrwydd, yn ogystal â holl ddeunydd eraill a ddarparir gan yr Artist i’r Asiantaeth yn gallu cael ei ddefnyddio yn y Proffil a’r Cyhoeddiad a all cael ei ddosbarthu i bob cyfrwng a gan holl foddion a ffyrdd sydd yn wybodol nawr, neu a gaiff ei ddyfeisio yn y dyfodol;

yn digolledu’r Asiantaeth, ac yn cadw’r Asiantaeth yn ddigolledig wastad, gan ac yn erbyn unrhyw weithred, ceisiau, achosion, gofynion, costau (yn cynnwys costau cyfreithiol), dyfarniadau neu iawndal, fodd bynnag y ffordd y maent yn codi, yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol o ganlyniad i doriad neu ddi-berfformiad gan yr Artist o oblygiadau’r Artist, ymgymeriad neu warantiau a ddisgrifir yn y cytundeb yma.

 

7. AMSERLENNI/CHITS/TALEBAU TALIAD ARTIST WEDI EU CWBLHAU

7.1 Yn ystod Aseiniad, bydd yr Artist yn cyflwyno i Creative Casting amserlenni wedi eu cwblhau, chits, neu Talebion Taliad Artist (yn dibynnu ar pa un sydd yn briodol i’r Aseiniad) yn aml (fel arfer yn ddyddiol), sydd yn nodi’r nifer o oriau a weithwyd, a wedi ei arwyddo gan gynrychiolwr awdurdodedig o’r Cwmni Cynhyrchiad.

7.2 Pan fo’r Artist yn methu cyflwyno amserlen, chit neu Taleb Taliad Artist sydd wedi ei awdurdodi yn iawn, gall fod y taliad sydd yn ddyledus i’r Artist gael ei oedi tra fod Creative Casting yn ymchwilio (o fewn amser rhesymol) pa oriau a weithwyd, os o gwbl, gan yr Artist. Ni fydd yr Artist yn gallu hawlio unrhyw daliad am unrhyw oriau na weithwyd.

7.3 Mae’r Artist yn cydnabod ac yn derbyn y gall fod yn drosedd dan Ddeddf Twyllo 2006 i ffugio unrhyw amserlen, chit neu Daleb Taliad Artist, er enghraifft drwy rhoi cais am oriau na dreuliwyd yn gweithio.

 

8. TERFYNIAD

8.1 Caiff y Cytundeb yma ei derfynu yn syth pan fo hysbysiad ysgrifennedig yn cael ei gyflwyno yn esbonio gan y parti arall:

os yw un o’r partion yn methu cydymffurfio â unrhyw dermau materol o’r Cytundeb yma, ac os yw’n drwsiadwy, nid yw’n cael ei drwsio o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifennedig o’r methiant hynny gan y parti arall;

os yw’r Asiantaeth yn datodi unai yn orfodol neu yn wirfoddol, neu bod derbynyddiwr yn cael ei apwyntio mewn perthynas â’r asedau yn eu cyfanrwydd neu yn rhannol, neu fod dyfarniad yn cael ei wneud yn erbyn yr Asiant.

8.3 Bydd terfyniant y Cytundeb yma heb ragfarn i unrhyw hawliau a rhwymediau sydd wedi cael eu casglu i unrhyw un o’r partion dan y Cytundeb yma. Bydd unrhyw Ffioedd Weinyddol neu Comisiwn sydd wedi codi dal yn ddyledus.

8.4 Gall Creative Casting, y Cwmni Cynhyrchu neu yr Artist derfynu y Cytundeb ar unrhyw adeg heb rybudd nac atebolrwydd. Pan fo Aseiniad neu perthynas Artist â Creative Casting yn cael ei derfynu oherwydd y Cwmni Cynhyrchu neu Creative Casting, bydd Creative Casting yn ymdrechu i roi rhesymau dros derfynu i’r Artist, ond ni fydd hyn wastad yn bosibl, a nid oes hawl gan yr Artist i gael unrhyw rheswm.

8.5 Mae’r Artist yn cydnabod fod parhad unrhyw Aseiniad yn ddibynnol ar y parhad o’r Cytundeb a gytunwyd rhwng yr Artist a’r Cwmni Cynhyrchu. Os yw’r Cytundeb yn cael ei derfynu am unrhyw reswm, bydd yr Aseiniad yn gorffen yn syth, heb atebolrwydd i’r Artist, heblaw am daliad am y gwaith a wnaed hyd ddyddiad terfynu’r Cytundeb.

8.6 Heblaw bod amgylchiadau eithriadol, bydd methiant yr Artist i hysbysu’r Cwmni Cynhyrchu neu Creative Casting o’u anallu i fynychu gwaith yn cael ei drin fel terfyniad o’r Cytundeb gan yr Artist.

8.7 Os yw’r Artist yn absennol yn ystod Aseiniad, a nid yw’r Aseiniad wedi cael ei derfynu fel arall, bydd Creative Casting a’r hawl i derfynu’r Cytundeb os fod y gwaith oedd yr Artist wedi cael ei ddarparu i wneud ddim bellach ar gael am unrhyw reswm (yn cynnwys os oes rhywun arall wedi cymeryd lle yr Artist).

 

9. FORCE MAJEURE

9.1 Heblaw am oblygiadau talu holl bartion, bydd oblygiadau’r partion yn cael eu gohirio am y cyfnod mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol, rhyfel, rheoliadau cyfyngedig llywodraeth, neu unrhyw achos arall tu hwnt i reolaeth rhesymol y partion (“Digwyddiad Force Majeure”). Bydd y parti sydd yn cael ei effeithio yn hysbysu’r llall yn syth yn ysgrifennedig yn rhoi manylion o’r Digwyddiad Force Majeure.

9.2 Pan fod Digwyddiad Force Majeure, bydd holl symiau dyledus dan y Cytundeb yma yn ddyledus yn syth.

9.3 Os yw Digwyddiad Force Majeure yn parhau am gyfnod o dri deg diwrnod dilynol, caiff unrhyw barti derfynu’r Cytundeb yma gyda rhybudd ysgrifennedig saith diwrnod o flaen llaw.

 

10. HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL

10.1 Mae’r Artist yn cydnabod fod holl Hawliau Eiddo Deallusol sydd yn deillio o wasanaethau a ddarparir gan yr Artist i’r Cwmni Cynhyrchu yn ystod y cynhyrchiad yn eiddo i’r Cwmni Cynhyrchu. Yn unol â hynny, bydd yr Artist yn gweithredu unrhyw ddogfennau neu gwneud unrhyw weithred y bydd Creative Casting neu’r Cwmni Cynhyrchu o dro i dro yn gofyn er mwyn galluogi hawliau’r Cwmni Cynhyrchu yn dilyn y cymal 10 yma.

10.2 Bydd hawlfraint y ffotograffiaeth a gymerir gan Creative Casting o’r Artist yn cael ei berchen gan Creative Casting yn unig, a ni chaiff eu copio gan yr Artist heb ganiatâd ysgrifennedig blaenorol.

 

11. CYFRINACHEDD

Er mwyn gwarchod cyfrinachedd a chyfrinachau masnachol Creative Casting a’r Cwmni Cynhyrchu, mae’r Artist yn cytuno i byth:

unai yn ystod neu wedi i Aseiniad (oni bai eu bod wedi cael eu hawdurdodi yn glir gan y Cwmni Cynhyrchu fel rhan angenrheidiol o’r perfformiad), i ddatgelu i unrhyw berson, neu defnyddio unrhyw gyfrinachau masnachol na unrhyw Wybodaeth Gyfrinachol o’r Cwmni Cynhyrchu neu Creative Casting;

i wneud copi neu grynodeb o’r cyfanrwydd na unrhyw ran o unrhyw ddogfen neu defnydd arall sydd yn berchen i’r Cwmni Cynhyrchu nag i’r Artist, ar wahân i pan fod angen gwneud hynny fel rhan o waith yr Artist mewn perthynas â Aseiniad, ac mewn amgylchiadau fel hynny bydd unrhyw gopi, neu grynodeb yn perthyn i’r Cwmni Cynhyrchu neu Creative Casting fel sydd yn briodol.

 

12. DIOGELU DATA

12.1 Mae’r Artist yn cytuno i Creative Casting a’r Cwmni Cynhyrchu ac unrhyw gyfryngwr sydd yn rhan o’r broses o ganfod gwaith i’r Artist, neu yn darparu gwasanaeth yr Artist i’r Cwmni Cynhyrchu ddal data sydd yn perthyn iddyn nhw ar gyfer rhesymau cyfreithiol, personél, gweinyddol neu rheoleiddio, ac yn enwedig mewn perthynas â prosesu unrhyw “ddata personol, sensitif” a ddiffinir yn Neddf Diogelu Data 1998 sydd yn perthyn iddyn nhw, yn cynnwys, fel sydd yn briodol:

gwybodaeth am eu iechyd ffisegol neu meddwl, neu’r gallu i wneud penderfyniadau mewn perthynas â’u gallu i weithio;

eu tarddiad ethnig neu hiliol neu gredodau crefyddol neu debyg i ufuddhau â deddfwriaeth cyfle cyfartal;

gwybodaeth am unrhyw weithred troseddol a allent fod yn rhan ohono ar gyfer rhesymau yswiriant, ac i ufuddhau â gofynion cyfreithiol ac oblygiadau i drydydd partion;

gwybodaeth yn ymwneud â’u hoedran, hil, rhyw ac edrychiad ffisegol, er mwyn barnu eu cyfaddasrwydd ar gyfer rôl benodol.

12.2 Mae’r Artist yn cytuno i adael i Creative Casting a’r Cwmni Cynhyrchu neu unrhyw gyfryngwr sydd yn rhan o’r broses i ganfod gwaith i’r Artist, neu sydd yn darparu gwasanaethau’r Artist i’r Cwmni Cynhyrchu wneud unrhyw wybodaeth o’r fath ar gael i’r Cwmni Cynhyrchu, y rhai sydd yn darparu gwasanaethau neu cynnyrch i Creative Casting (megis ymgynghorwyr), awdurdodau rheoleiddio, mudiadau llywodraethol, neu anllywodraethol a prynwyr potensial o Creative Casting, neu unrhyw ran o’i busnes.

12.3 Mae’r Artist yn caniatáu i wybodaeth gael ei drosglwyddo tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ar gyfer rhesymau ymgysylltiedig â’r perfformiad o’r termau yma.

 

13. GWARANTIAU A DIGOLLEDIADAU

13.1 Mae’r Artist yn gwarantu bod:

y wybodaeth a ddarparir i Creative Casting mewn unrhyw ddogfennau cais, neu o dro i dro yn gywir;

nid yw’r Artist yn cael ei rwystro gan unrhyw gytundeb, trefniant, rhwystriad ( yn cynnwys heb gyfyngiad, rhwystriad o ffafr asiantaeth gyflogi arall, busnes gyflogi neu Gwmni Cynhyrchu) neu unrhyw reswm arall, i gyflawni oblygiadau’r Artist dan y Termau hyn; a

fod yr Artist â’r hawl dilys i fodoli ac aros yn y Deyrnas Unedig am hyd y cytundeb yma a nid yw (mewn perthynas a’r hawl hynny) yn amodol ar unrhyw amodau a all gael effaith anffafriol ar yr Aseiniad.

13.2 Wnaiff yr Artist ddigolledi a chadw Creative Casting a’r Cwmni Cynhyrchu yn ddigolledig yn erbyn unrhyw Alwon (yn cynnwys ffioedd a costau cyfreithiol a phroffesiynol) y gall Creative Casting neu’r Cwmni Cynhyrchu ddioddef, gynnal, fynd i, dalu neu cael eu gorfodi yn codi o neu yn gysylltiedig â:

unrhyw fethiant gan yr Artist i gydymffurfio â’i oblygiadau yn y Termau;

unrhyw weithred neu anwaith dwyllodrus neu esgeulus gan yr Artist;

datgeliad o Wybodaeth Cyfrinachol gan yr Artist;

unrhyw gais cyfreithiol cyflogaeth a ddaw gan yr Artist mewn cysylltiad gyda’r Aseiniad neu fel arall; neu

troseddu gan yr Artist o Hawliau Eiddo Deallusol  y Cwmni Cynhyrchu.

13.3 Mae’r Artist yn cydnabod na fydd Creative Casting yn cael eu dal yn gyfrifol am, a na fyddent yn gallu dal unrhyw lefel o reolaeth na dylanwadu triniaeth o’r Artist (boed gan Gwmni Cynhyrchu, cynrychiolwr o’r Cwmni Cynhyrchu, neu unrhyw drydydd parti arall) yn ystod Aseiniad. Felly, ni fydd Creative Casting yn atebol i’r Artist, nag am unrhyw Alw a godir mewn canlyniad i weithred neu anwaith gan Gwmni Cynhyrchu, neu unrhyw drydydd parti. I osgoi amheuaeth, nid yw’r cymal yma yn eithrio na rhwystro atebolrwydd Creative Casting am ei esgeulusdod neu anwaith esgeulus sydd yn achosi anafiadau neu marwolaeth i’r Artist.

 

14. CYFYNGIAD ATEBOLRWYDD

14.1 Ni fydd yr Asiantaeth yn atebol i’r Artist am unrhyw golled anuniongyrchol, arbennig na dilynol na iawndal, colled elw, trosiant, cyfleon busnes na difrod i ewyllys da.

14.2 Ni fydd atebolrwydd gyfan, agregol yr Asiantaeth i’r Artist dan y Cytundeb yma ddim yn fwy na 100% o’r Comisiwn a dderbynir gan yr Asiantaeth yn y 12 mis blaenorol i’r digwyddiad sydd yn codi’r atebolrwydd.

 

15. STATWS

15.1 Mae’r Artist yn hunan-gyflogedig a nid oes unrhyw beth yn y Termau hyn a fydd yn dyfarnu’r artist i fod yn gyflogedig, weithiwr, asiant na partner i Creative Casting na’r Cwmnïau Cynhyrchu a ni fydd yr Artistiaid yn trin eu hunan fel hynny. Bydd pob parti yn cadarnhau  eu bod yn ymddwyn ar eu rhan eu hunan, a nid er budd person arall.

15.2 Bydd yr Artist yn gyfrifol am, a bydd yn digolledu Creative Casting ac unrhyw Gwmni Cynhyrchu mewn perthynas â:

Unrhyw dreth incwm, Yswiriant Gwladol a cyfraniad nawdd cymdeithasol ac unrhyw atebolrwydd, didyniad, cyfraniad, asesiad neu hawliad sydd yn codi o, neu a wneir mewn cysylltiad â taliadau a wnaeddan, neu mewn perthynas â unrhyw Aseiniad. Wnaiff yr Artist ddigolledu Creative Casting ac unrhyw Gwmni Cynhyrchu yn bellach yn erbyn holl gostau rhesymol, treuliau, ac unrhyw gosb, dirwy neu log a godir neu sydd yn ddyledus gan Creative Casting neu unrhyw Gwmni Cynhyrchu mewn cysylltiad â, neu mewn canlyniad i unrhyw atebolrwydd, didyniad, cyfraniad, asesiad neu hawliad;

Unrhyw atebolrwydd sydd yn codi o unrhyw hawliad mewn perthynas â cyflogaeth neu unrhyw hawliad wedi ei seilio ar statws gweithiwr (yn cynnwys costau rhesymol a digolledion) a ddaw gan yr Artist yn erbyn Creative Casting neu unrhyw Gwmni Cynhyrchu yn codi o, neu mewn cysylltiad â unrhyw Aseiniad.

15.3 Wnaiff Creative Casting, yn ei opsiwn, fodlonni’r digollediad (yn rhannol neu yn llawn) drwy ddidynnu o unrhyw daliadau sydd yn ddyledus i’r Artist.

 

16. ASEINIAD GYFAN

Mae’r Cytundeb yn cynnwys y cytundeb gyfan rhwng y partion mewn perthynas â’r materion oddi fewn, ac yn disodli unrhyw gytundebau eraill rhwng y partion, boed ar lafar neu yn ysgrifennedig, a bydd unrhyw gytundebau debyg yn cael eu canslo o’r dyddiad cychwyn.

 

17. HAWLIAU TRYDYDD PARTI

Nid oes gan berson nad yw’n barti i’r Cytundeb yma unrhyw hawl dan y Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999 i orfodi unrhyw derm o’r Cytundeb yma.

 

18. ASEINIAD

Gall y Cytundeb yma a’r hawliau oddi tano gael eu haseinio neu eu trosglwyddo gan yr Asiantaeth.

 

19. RHYBUDDION

Rhaid i unrhyw rybuddion gael eu cyflwyno gan unrhyw barti drwy gael ei yrru drwy post a gofnodwyd neu post gofrestredig sydd wedi eu talu yn llawn, a byddent yn cael eu cysidro fel eu bod wedi cael eu derbyn gan y derbynydd o fewn 48 awr o’i yrru.

 

20. TORADWYEDD

Bydd annilysrwydd neu diffyg gorfodi unrhyw rhan o’r Cytundeb yma ddim yn effeithio dilysrwydd na’r gallu i orfodi unrhyw ran arall ohono, ac yn sgil hynny, mae rhannau’r Cytundeb yn dorradwy.

 

21. CYFRAITH LYWODRAETHU AC AWDURDODAETH

Caiff y Cytundeb yma ei llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a’r llysoedd yng Nghaerdydd, Cymru a gaiff yr awdurdodaeth mewn unrhyw anghydfod a godir, neu mewn cysylltiad, â’r Cytundeb yma

Contact us on WhatsApp 07966461799
FAQs Jobs Privacy Policy Terms
2024 © Gems Casting Ltd. T/A Creative Casting. All rights reserved. Solution: Onefuzz