Sign Up Login
FAQ

Oes rhaid i mi gofrestru gyda Creative Casting i ymgeisio am swyddi?

Oes – dim ond aelodau cofrestredig o Creative Casting all gael eu cysidro am waith. Gallwch gofrestru drwy fynd i'r dudalen flaen o'n gwefan, clicio ar y botwm cofrestru, a chreu proffil arlein.

 

Sut ydw i yn cofrestru?

Ar ochr chwith, top y dudalen flaen, mae botwm i gofrestru. O fan hyn, gallwch gofrestru gan ddefnyddio eich e-bost a llenwi eich manylion personol, yn ogystal â llun o'ch pen. Mae hefyd ffi o £30 i gofrestru am 12 mis o ddyddiad y taliad.

 

Sut ydw i yn logio mewn i fy nghyfrif Creative Casting?

Gallech logio mewn gyda enw defnyddiwr a cyfrinair. Bydd eich enw defnyddiwr yn debygol o fod eich ebost, a'ch cyfrinair yw'r hyn yr ydych wedi ei ddewis. Os nad ydych yn gallu cofio eich manylion, rhowch alwad ffôn i ni a mi wnawn ni ail-osod eich cyfrinair.

 

Faint oed dylwn fod, oes cyfyngiad oed?

Nid oes cyfyngiad oedran pan yn cofrestru gyda Creative Casting, rydym yn croesawu unigolion o bob oedran.

 

Beth os mae fy edrychiad yn newid?

Os yw eich edrychiad yn newid, mae'n bwysig i chi logio mewn i'ch proffil a newid eich mesuriadau/lliw gwallt a.y.y.b ac uwchlwytho ffotograffau mwy diweddar. Rhaid i ni gael y wybodaeth diweddaraf am eich edrychiad fel ein bod yn gallu eich cysidro ar gyfer castio priodol.

 

Sut ydw i yn newid fy nghyfrinair?

Galwch ein swyddfa i ail-osod eich cyfrinair.

 

Sut ydw i yn gadael i chi wybod fy argaeledd?

Nid oes angen i chi gysylltu â'r swyddfa i'n diweddaru gyda'ch argaeledd, oni bai na fyddech ar gael am 2 fis neu fwy.

 

Sut ydw i yn gwybod os ydw i wedi cael fy newis ar gyfer ffilmio?

Wnawn ni gysylltu trwy neges destun os cewch eich archebu ar gyfer ffilmio. Cewch yna eich amser galw, lleoliad ac anghenion gwisg y noson cyn yr archeb. Ymatebwch bob tro i negeseuon destun ar gyfer archebu ac amser galw fel ein bod yn gwybod eich bod wedi eu derbyn.

 

Nid wyf ar gael ar gyfer ffilmio rhagor – sut ydw i yn gadael i chi wybod?

Os nad ydych ar gael mwyach ar gyfer ffilmio, galwch y swyddfa cyn gynted â phosib. Os oes angen i chi gael gafael arnom tu allan i oriau swyddfa arferol (9-6) yna gallwch alw ffôn symudol y swyddfa ar 07966461799.

 

Pa mor hir yw diwrnod ffilmio?

Mae diwrnod ffilmio ar gyfartaledd yn 10 awr +1 (10 awr gweithio, ac un awr am ginio). Dylech ddisgwyl fod ar set am 11 awr o'r amser yr ydych yn cael eich galw. Wnawn ni wastad ymdrechu i adael i chi wybod eich amser galw ac amser gorffen o flaen llaw.

 

A fyddaf yn gwybod o flaen llaw am beth fydd y golygfeydd amdan?

Ddim o reidrwydd. Byddem yn gadael i chi wybod cynnwys y golygfa os fydd y cynhyrchiad wedi gofyn i ni wneud hynny.

 

Beth dylwn wisgo?

Cewch wybod eich briff gwisg y noswaith cyn y ffilmio. Petai'r wisg yn gymhleth, cewch eich cymeryd am fesuriad.

 

Dylwn fynd ag unrhyw beth gyda mi?

Rydym yn argymell i chi ddod a gwisg eich hunan, dylech hefyd fynd ag o leiaf 3 opsiwn wahanol. Y ffordd hyn, gall yr Adran Wisg ddewis beth dylech wisgo. Mae amrywiaeth yn allweddol. Mae hefyd yn syniad da i fynd â chot hefo chi i gadw'n gynnes rhwng golygfeydd, yn enwedig os fod y ffilmio yn digwydd tu allan. Gall fod dipyn o aros, felly ewch a llyfr neu rhywbeth i'ch diddori yn ystod adegau araf.

 

A fydd cinio yn cael ei ddarparu?

Pan yn gweithio ar gynhyrchiad yn Stiwdio Roath Lock, dewch a'ch cinio eich hunan, neu prynwch ginio yn y ffreutur.

Ar gynyrchiadau eraill sydd yn ffilmio ar leoliad, bydd prydau yn cael eu darparu. Os nad ydych yn siŵr, galwch y swyddfa i gadarnhau os yw'r cynhyrchiad yr ydych wedi cael ei archebu ar ei gyfer yn darparu bwyd.

 

Beth os aiff rhywbeth o'i le ar set?

Mae artistiaid cefnogol yn cael eu gwarchod gan y rhedwyr a'r 3ydd Cyfarwyddwr Gynorthwyol. Os oes problem – ewch atyn nhw ar y set.

 

Nid wyf wedi derbyn fy amser galw, beth dylwn wneud?

Os nad ydych wedi derbyn eich amser galw erbyn 7yh, galwch ffôn symudol y swyddfa ar 07966461799.

 

Ble dylwn fynd pan yn cyrraedd ar set?

Pan yn cyrraedd, cyflwynwch eich hunan i un o aelodau o'r cynhyrchiad. Cewch eich cofrestru a cewch wybod lle i fynd nesaf.

 

Rydw i yn hwyr/ar goll ar y ffordd i'r ffilmio, beth dylwn i wneud?

Ffoniwch y swyddfa i adael i ni wybod a mi wnawn ni adael i'r cynhyrchiad wybod. Os yw hi tu allan i oriau'r swyddfa (9-6) ffoniwch ffôn symudol y swyddfa.

 

Faint ydw i yn cael fy nhalu am bob job?

Mae pob cynhyrchiad yn talu cyfraddau gwahanol. Pan yr ydym yn eich cysylltu am job, byddem yn gadael i chi wybod beth yw'r tâl.

 

Faint o gomisiwn ydw i yn ei dalu?

Ar gyfer gwaith ffilm/teledu, mae ffi o 15% o gomisiwn. Ar gyfer hysbysebion, mae'n 20%.

 

A gaf i daliad am deithio?

Nid yw artistiaid cefnogol cyffredinol yn derbyn taliadau teithio. Os ydych am dderbyn taliad am deithio, bydd yn cael ei negodi cyn y cewch eich archebu, e.e. os ydych chi wedi cael eich archebu yn benodol.

 

Sut/Pryd caf fy nhalu?

Cewch eich talu trwy BACS. Cymerir ar gyfartaledd tua 6-8 wythnos i gynyrchiadau i yrru'r arian i ni, a rydym yna angen prosesu'r taliad a'i yrru i chi.

 

Rydw i wedi cael fy nhalu yn llai nag oeddwn y nei ddisgwyl, beth dylwn wneud?

Os oes problem gyda'ch taliad, cysylltwch â'r swyddfa ar 029 2010 7628.

 

Pam nad ydw i yn cael swyddi?

Yma yn Creative Casting, nid oes dweud gennym ar bwy gaiff eu dewis ar gyfer ba rôl - bydd y penderfyniad wastad gyda'r tîm cynhyrchu. Os hoffech siarad gydag aelod o'r tîm ynglŷn â sut i wella'ch cyfleon gwaith, galwch y swyddfa.

 

Sut ydw i yn gwella fy nghyfleon o gael mwy o waith?

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi diweddaru eich manylion personol, yn enwedig mesuriadau a ffotograffau. Ceisiwch ddod i bob un o'n dyddiau castio/ail-gofrestru ble gallwch gael lluniau newydd wedi eu cymeryd i fod yn gyson a'ch edrychiad presennol.

Contact us on WhatsApp 07966461799
FAQs Jobs Privacy Policy Terms
2024 © Gems Casting Ltd. T/A Creative Casting. All rights reserved. Solution: Onefuzz