Sign Up Login
Côd Ymddygiad

Mae'r Côd Ymddygiad yma yn berthasol i bob Artist a ddarparir i asiantaethau cynhyrchu gan Creative Casting. Darllenwch y ddogfen yma yn ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn cadw i'r rheolau. Bydd unrhyw fethiant o gadw i'r rheolau yn gallu golygu terfyniad o'ch aseiniad presennol heb rybudd, a dim archebion pellach i chi trwy Creative Casting.

 

Byddem wastad yn eich rhoi ymlaen i unrhyw ymholiad yr ydym yn ei dderbyn sydd yn ateb eich gofynion

Os ydym yn cysylltu gyda chi gyda ymholiad argaeledd, galwch ni yn ôl cyn gynted â phosib i gadarnhau os ydych ar gael neu ddim. Byddem fel arfer yn cysylltu gyda chi trwy neges destun neu ar y ffôn.

Er cymaint yr hoffwn warantu pob archeb y gallwn, mae'r penderfyniad yn aros gyda'r cwmni cynhyrchu.

Byddem yn ymdrechu i gysylltu â chi y prynhawn cyn eich archeb gyda'ch amser galw felly gwnewch yn siwr eich bod yn agos i'ch ffôn.

***os nad ydych yn clywed gennym erbyn 6yh, galwch ni os gwelwch yn dda***

Os nad ydych ar gael ar gyfer eich slot, gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib fel y gallen drefnu amnewidiad.

Mae pob artist cefnogol wedi cael eu dewis am reswm penodol, felly os nad ydych yn troi fyny, neu os ydych yn tynnu allan wedi cael eich archebu, mae'n adlewyrchu yn ddrwg ar Creative Casting a'r cynhyrchiad a felly byddem yn cysidro hyn ar gyfer archebion eraill.

Os yw unrhyw o'ch manylion personol yn newid, yn cynnwys newid golygiad, cofiwch ddiweddaru ein cronfa ddata.

Os gwelwch yn dda, cyrhaeddwch 15 munud cyn eich amser galw, a gadewch ddigonedd o amser ar gyfer teithio a parcio.

Cofiwch fynd â dau neu dri set ychwanegol o ddillad ar gyfer opsiynnau gwisg – osgowch labeli dylunydd, logos, spotiau neu streipiau.

Pan gyrhaeddwch, ewch yn syth at aelod o'r tîm gynhyrchu, a byddent yn eich tywys i'r cyfeiriad cywir.

Trowch eich ffôn symudol neu unrhyw ddyfais debyg, yn cynnwys tabledi/iPads, i ffwrdd, peidiwch gwneud unrhyw alwadau ffôn, gyrru negeseuon na defnyddio eich ffôn symudol neu tabled etc. ar gyfer unrhyw bwrpas arall, ac os gwelwch yn dda, a ni allen bwysleisio hyn ddigon, peidiwch cymeryd unrhyw luniau na gofyn am lofnodion. Mae hyn yn faux pas fawr.

Dim gemwaith, gormod o golur, farnais ewinedd na tan ffug oni bai fod cyfarwyddiad penodol.

Os gwelwch yn dda, peidiwch a mynd a pethau gwerthfawr gyda chi.

Os oes unrhyw reswm gennych i adael y set, i ddefnyddio'r tŷ bach neu unrhyw reswm arall, yna cadarnhewch gyda'r Cyfarwyddwr Gynorthwyol yn gyntaf.

Gadewch i'r cast cynradd a'r criw gael eu prydau yn gyntaf wastad.

Peidiwch a siarad â, na agosáu at unrhyw actor oni bai eu bod yn agosáu atoch chi yn gyntaf.

Mae'n bwysig cofio fod dilyniant yn hanfodol yn ystod golygfa, dylech wastad gwneud union yr un peth mewn pob toriad, oni bai bod cyfarwyddiad neu fod rhywun yn dweud wrthych yn wahanol.

Mae'r dyddiau yn aml yn hirach na'r disgwyl, felly paratowch i fynd dros yr oriau ffilmio (a peidiwch gwneud cynlluniau gyda'r nos). Cewch eich talu goramser am hyn.

Peidiwch gofyn i neb ar y cynhyrchiad os cewch ddianc yn gynnar – nid fydd hyn yn adlewyrchu'n dda arnoch. Rydych wedi cael eich archebu ar gyfer y dydd gyfan, oni bai eich bod wedi cael gwybodaeth wahanol.

Os gwelwch yn dda, dychwelwch unrhyw wisgoedd sydd wedi eu rhoi i chi, a gadewch i golur a gwisg dynnu unrhyw wigiau oedd angen eu gwisgo.

Cofiwch arwyddo allan ar ddiwedd y dydd. Os nad ydych yn arwyddo allan, ni chewch eich talu! Cofiwch eich rhif Ywiriant Cenedlaethol.

Dewch i'r set ar ben eich hunan, gadewch ffrindiau, teulu ac anifeiliaid anwes gatref (oni bai eich bod yn riant ag yn gwarchod).

Dim yfed na gwneud cyffuriau ar set – mae hyn yn cynnwys pen mawr!

Os oes unrhyw boendod neu broblem nad yw'n frys tra ar y set – galwch ni yn hytrach na siarad ag unrhyw un o'r criw cynhyrchu.

Cofiwch gadw unrhyw blot neu droeon yn y stori i chi eich hun, peidiwch dweud wrth ffrindiau na theulu beth ydych wedi weld – does neb eisiau bod yn gyfrifol am sbwylio pethau!

Yn bwysicaf oll; rydych yn rhwym i gyfrinachedd caeth, ni ddylech rannu unrhyw wybodaeth na lluniau ar unrhyw gyfrwng cymdeithasol na gwefan. Bydd methu gwneud hyn yn gallu golygu gweithrediad gyfreithiol.

 

Yn olaf – cofiwch gael diwrnod gwych a mwynhewch eich hunan!

Contact us on WhatsApp 07966461799
FAQs Jobs Privacy Policy Terms
2024 © Gems Casting Ltd. T/A Creative Casting. All rights reserved. Solution: Onefuzz